Croeso i Ganolfan Fusnes Orbit
Mae gan Ganolfan Busnes Orbit llu o wasanaethau i gynnig i fusnesau, boed fawr neu fach. Felly pam dewis Canolfan Busnes Orbit ym Merthyr Tudful?
Mae gan Ferthyr Tudful un o’r economïau busnes sy'n tyfu gyflymaf yn y De, wedi'i gefnogi gan raglen buddsoddi sylweddol. Mae cymorth busnes cynhwysfawr ar gael, gyda sgiliau'r gweithlu yn datblygu’n gyflym; Rydym yn filch o’n pensaernïaeth, yn datblygu cyfleusterau hamdden trawiadol a chryfhau ymhellach ein cysylltiadau trafnidiaeth a rhyngrwyd.
Mae gan yr ardal sylfaen technoleg a gweithgynhyrchu sefydledig a sector creadigol ffyniannus. Mae Prifysgol Morgannwg yn bresenoldeb mawr yn nhref Merthyr Tudful, tra bod y sectorau busnes, ariannol a gwasanaethau proffesiynol yn mwynhau cyfnod o dwf.
Mae’r ardal yn gartref i’r gorau o gefn gwlad, diwylliant a threftadaeth Cymru. Mae Canolfan Busnes Orbit yn lle ardderchog i fod felly - adeilad sy'n cynnwys tua 30,000tr.sg o ofod swyddfa o’r radd uchaf, ar gyfer busnesau sefydliedig a newydd, cyfleuster cynhadledda fawreddog, ystafelloedd hyfforddi a llawer, llawer mwy!
Mae gennym gysylltiadau gwych gyda darparwyr addysg lleol. Ffilmiwyd fideo Orbit ar y dudalen gartref gan ddefnyddio technoleg Drone gan Gyfadran Cyfrifiadura, Peirianneg a Gwyddoniaeth, Prifysgol De Cymru.

Tîm Canolfan Busnes Orbit
Yr ydym yn gwerthfawrogi pwysigrwydd hyblygrwydd a dyna pam mae gennym dîm ymroddedig i wrando ar eich gofynion ac i weld sut y gellir eu bodloni. Cewch groeso cynnes iawn gan Maria, ein prif dderbynnydd. O'r funud y cerddwch i mewn, byddwch yn mwynhau croeso cynnes a derbyn y gofal gorau gan ein tîm gwych. Ar y diwrnod byddwn yn gweithio gyda chi i wneud eich digwyddiad yn llwyddiant. Yn wir, byddwn yn gwneud cymaint neu cyn lleied âg sydd angen arnoch chi.