Welcome to the Orbit Business Centre
Mae Canolfan Fusnes Orbit yn cynnig amrywiaeth fawr o wasanaethau busnes ym Merthyr Tudful
Mae’r amser wedi hen fynd o gyfarfod cleientiaid mewn gwestai a brwydro i gael sgwrs gyfrinachol a manwl yng nghanol y twrw. A’r peth olaf yr ydym am ei wneud yw gwahodd darpar gwsmeriaid neu gyflenwr i’n cartref, a rhoi portread amhroffesiynol o’n busnes.
Mae gan Ganolfan Fusnes Orbit swyddfeydd ar gyfer busnesau o bob lliw a llun - busnesau newydd a rheiny sy’n cynyddu! Mae cymorth busnes ar gael ar y safle, ynghyd a rhwydwaith fusnes naturiol, a chyfleusterau i ddatblygu eich busnes i'w lawn botensial.
Are gael hefyd i fusnesau – adnoddau cynadleddau, ystafelloedd hyfforddi a chyfarfod – mae’r rhestr yn ddiddiwedd. Mae’r holl gyfleusterau yma sydd angen ar eich busnes i lewyrchu!
Mae Canolfan Busnes Orbit mewn lleoliad gwych, wrth ochr yr A470, sy’n darparu mynediad da at yr M4, a sydd dim ond 30 munud o Gaerdydd. Hefyd, mae'n agos at ffordd yr A465, prif-wythien i Ganolbarth a Gorllewin Cymru. Yng nghanol Merthyr Tudful, wrth ymyl adeilad newydd Llywodraeth Cynulliad Cymru a gyferbyn â Pharc Hamdden Rhydycar.
Mae’r Canolfan Fusnes mewn sefyllfa ddelfrydol ar gyfer pob math o drafnidiaeth-ffyrdd, rheilffyrdd (pellter cerdded o orsaf drenau Merthyr neu taith tacsi fyr ar gyfer y llai egnïol), bysiau, beiciau ar droed (yn gyfagos i lwybr cerdded a beicio hyfryd Llwybr Taf ). Parcio diogel ac am ddim ar y safle ar gael i'n holl ddefnyddwyr.