Mae Canolfan Fusnes Orbit mewn lleoliad gwych, wrth ymyl yr A470, sy'n darparu mynediad da i'r M4 a dim ond 30 munud o Gaerdydd. Mae hefyd ger ffordd yr A465 sy’n cael ei gwella ar hyn o bryd - prif wythïen i Ganolbarth a Gorllewin Cymru. Yng nghanol Merthyr Tudful, drws nesaf i adeilad newydd Llywodraeth Cymru a gyferbyn â pharc hamdden Rhydycar.
Mae Canolfan Fusnes Orbit mewn lleoliad delfrydol ar gyfer pob math o drafnidiaeth - ffyrdd, rheilffordd (pellter cerdded o orsaf drenau Merthyr neu daith tacsi ar gyfer y rhai llai egnïol), bws, beic ac ar droed (gan ei fod wrth ymyl llwybr cerdded a llwybr beicio hyfryd Taith Taf). Gyda 150 o leoedd parcio diogel am ddim ar y safle ar gael i bob defnyddiwr.
cyfeiriad what3words: ///chin.locker.globe